
Bilingualism at work | Dwyieithrwydd ar Waith (Welsh/Cymraeg delivery)
Suitable for: All involved with church buildings, fundraising, maintenance and management.
Notes: You will need to have access to Zoom. For further queries please contact Gareth Simpson, Project & Volunteer Manager, 02920 379483
Amcanion
Bydd y sesiwn AM DDIM hon, gan Dîm Hybu Gomisiynydd y Gymraeg, yn caniatáu i chi ddatblygu defnydd eich sefydliad o’r iaith Gymraeg. Bydd yn rhannu gwybodaeth, ymchwil a chymorth ymarferol ar sut i gynllunio i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn eich sefydliad.
Cynnwys
Beth yw rôl y Gymraeg o fewn y trydydd sector? Sut mae’n berthnasol i chi, eich sefydliad a’ch defnyddwyr gwasanaeth? Sut gallwch chi gynllunio er mwyn sicrhau eich bod yn ymateb i anghenion eich cynulleidfa? Byddwn yn cynnig syniadau ymarferol gallwch eu rhoi ar waith i gynyddu eich darpariaeth Gymraeg yn syth. Yn y sesiwn hon byddwch yn edrych ar fanteision y Gymraeg, cyd- destun hanesyddol a phresennol yr iaith, y cymorth sydd ar gael gan Gomisiynydd y Gymraeg, a chynllunio ymarferol er mwyn datblygu eich defnydd o’r Gymraeg.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gallu:
Deall cyd-destun hanesyddol a chyfredol y Gymraeg yn well
Deall y sefyllfa ynglŷn â deddfwriaeth a pholisi cyhoeddus y Gymraeg yn well
Deall perthnasedd y Gymraeg i’ch cwsmeriaid a’ch defnyddwyr gwasanaeth
Disgrifio manteision y Gymraeg o fewn cyd-destun y trydydd sector
Adnabod a defnyddio’r cymorth a’r cyngor sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan Gomisiynydd y Gymraeg ac eraill
Delivered by: WCVA
Registration: